Diweddariad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: Ymchwiliad Byr i Wasanaethau Newyddenedigol

 

Argymhelliad 1.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan yn cynnal adolygiad o gapasiti, i gynnwys lefelau staffio a gweithgarwch presennol.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan yn un o is-bwyllgorau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, lle bydd Byrddau Iechyd Lleol yn gweithio ar y cyd i gynllunio ac ariannu gwasanaethau arbenigol. Cynhaliodd y Rhwydwaith adolygiad o gapasiti'r maes gofal newyddenedigol ledled Cymru ym mis Hydref 2010. Datblygodd Byrddau Iechyd Lleol gynlluniau gweithredu newyddenedigol lleol unigol mewn ymateb i hyn ac mae Grŵp Llywio'r Rhwydwaith Newyddenedigol wedi cael crynodeb o'r cynlluniau hyn. Ers hynny, mae'r Rhwydwaith wedi cynnal adolygiad manylach arall o gapasiti ac mae Grŵp Llywio'r Rhwydwaith Newyddenedigol yn bwriadu ystyried canlyniad hwn ar 31 Ionawr 2012.

 

Argymhelliad 2.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi sylw priodol i'r cynnydd yn y gyfradd enedigaethau yng Nghymru wrth asesu gofynion y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol wedi defnyddio data hanesyddol a data 2010 ar gyfraddau geni yn y gwaith o asesu gofynion eu gwasanaethau newyddenedigol yn y dyfodol.

 

Argymhelliad 3.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod digon o gapasiti ar draws pob gwasanaeth i ateb y galw yn y dyfodol.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol wedi adolygu capasiti ledled Cymru i sicrhau ei fod yn ateb y galw nawr ac yn y dyfodol, a bydd yn parhau i wneud hynny.

 

Argymhelliad 4.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod canllawiau ar gymarebau staff, sy'n cydymffurfio â safonau gofynnol Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain 2001 ac a amlinellir yn y Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, yn cael eu bodloni, ond nid drwy leihau nifer y cotiau.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Cafodd adolygiad cynhwysfawr o'r gweithlu nyrsio ei gynnal gan is-grŵp Nyrsio a Therapïau'r Rhwydwaith Newyddenedigol a'i gyflwyno i Grŵp Llywio'r Rhwydwaith Newyddenedigol ym mis Mehefin 2011. Rhoddodd yr adroddiad adolygiad o'r sefydliadau nyrsio sy'n bodoli ar hyn o bryd ledled Cymru a dadansoddiad o fethiant sefydliadau i gyrraedd Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan. Nododd hefyd fanylion staff gwirioneddol a benodir yn erbyn sefydliadau.

 

Mae'r Byrddau Iechyd Lleol yn mynd i'r afael â'r methiannau a nodwyd fel rhan o'u cynlluniau gweithredu newyddenedigol lleol.

 

Argymhelliad 5.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi mesurau ar waith i sicrhau bod unedau newyddenedigol yn cyflawni lefelau defnydd gwlâu sy'n gallu bodloni'r amrywiadau mewn galw.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae adolygiadau'r Rhwydwaith Newyddenedigol o gapasiti yn amlinellu'r lefelau defnydd gwlâu presennol ym maes gofal dwys, gofal dibyniaeth uchel a gofal arbennig a nododd niferoedd y cotiau sydd eu hangen i gyflawni 70% o lefelau defnydd gwlâu ar gyfer gofal critigol ac 80% o lefelau defnydd gwlâu ar gyfer gofal arbennig.

 

Mae Byrddau Iechyd Lleol yn mynd i'r afael â lefelau defnydd gwlâu fel rhan o'u cynlluniau gweithredu newyddenedigol lleol.

 

Argymhelliad 6.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i Rwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan ddatblygu cynllun i gyflawni Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan o fewn amserlen glir ac i gyhoeddi'r camau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod y safonau'n cael eu cyflawni.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Cynhaliodd y Rhwydwaith Newyddenedigol adolygiad sylfaenol o gydymffurfiaeth â Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan ym mis Rhagfyr 2010. Llywiodd y canlyniad y gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Cymru Gyfan y Rhwydwaith. Cydnabyddir bod angen cyflwyno nifer o'r camau gweithredu allweddol yn Safonau Newyddenedigol 2008 ledled Cymru gyfan ac mae'r Rhwydwaith wedi gweithredu ar raglen o weithgareddau i gefnogi cydymffurfiaeth yn erbyn y safonau. Mae Grŵp Llywio'r Rhwydwaith Newyddenedigol yn bwriadu ystyried diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Cymru Gyfan hwn ar 30 Ionawr 2012.

 

Argymhelliad 7.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith i fonitro sut y gweithredir Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol yn monitro'r gwaith o weithredu safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan mewn Byrddau Iechyd Lleol unigol bob chwarter.

 

Argymhelliad 8.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu system Lleoli Cotiau i sicrhau bod cotiau'n cael eu dyrannu'n effeithlon ac i leihau nifer y trosglwyddiadau diangen rhwng unedau. Dylai'r system gyd-fynd â systemau yn Lloegr.

 

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol wedi datblygu a gweithredu templed ar gyfer casglu statws cotiau ledled Cymru. Fe'i defnyddir yn ddyddiol gan y timau trosglwyddo trafnidiaeth i leoli'r cotiau sydd ar gael. Yn fras, mae'n rhoi darlun o gapasiti'r maes gofal critigol ledled Cymru ac yn cefnogi Unedau unigol i hwyluso trosglwyddiadau yn ogystal â'u cefnogi i ddychwelyd babanod yn ôl i'w huned gartref.

 

Argymhelliad 9.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y rhwydwaith a'r gronfa ddata glinigol yn gweithio'n effeithiol cyn gynted â phosibl.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol wedi'i sefydlu'n llwyr fel un o is-bwyllgorau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, lle bydd Byrddau Iechyd Lleol yn gweithio ar y cyd i gynllunio ac ariannu gwasanaethau arbenigol.

 

Dechreuodd pob Uned Newyddenedigol yng Nghymru ddefnyddio system gwybodaeth glinigol BadgerNet ym mis Ionawr 2011. Gellir defnyddio'r system i greu crynodebau rhyddhau cleifion clinigol yn ogystal â galluogi adroddiad blynyddol i gael ei archwilio a'i lunio. Mae is-grŵp Gwybodaeth Glinigol y Rhwydwaith Newyddenedigol, a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, yn parhau i fonitro cynnydd.  Mae pob Uned Newyddenedigol yng Nghymru yn defnyddio BadgerNet fel y prif ddull o dderbyn a rhyddhau babanod.

 

Argymhelliad 10.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y gwasanaeth trafnidiaeth 12 awr yn cael ei roi ar waith cyn gynted â phosibl.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Ym mis Ionawr 2011, dechreuodd gwasanaethau trafnidiaeth newyddenedigol yng Ngogledd a De Cymru, gan ddarparu timau trafnidiaeth penodedig a all gludo babanod yn ystod y 12 awr rhwng 8.00am ac 8.00pm. Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol, drwy ei is-grŵp Trafnidiaeth, wedi goruchwylio'r broses o recriwtio'r timau ac mae wedi gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddylunio a chaffael ambiwlans a chriw dynodedig yn Ne Cymru.  Ym mis Gorffennaf 2011, lansiais yn swyddogol Wasanaeth Trosglwyddo Newyddenedigol Acíwt rhwng Ysbytai Cymru (CHANTS).

 

Yng Ngogledd Cymru mae'r tîm trafnidiaeth yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gan nad oedd y niferoedd a oedd yn trosglwyddo yn ddigon uchel i gael cerbyd dynodedig. Mae'r ddau wasanaeth yn nodi canlyniadau ardderchog gyda 495 o drosglwyddiadau yn Ne Cymru a 120 yng Ngogledd Cymru. Mae nifer y trosglwyddiadau gan dimau trafnidiaeth yn Lloegr wedi lleihau'n sylweddol, ers i wasanaeth Cymru ddechrau gweithredu.

 

Argymhelliad 11.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu effeithiolrwydd y gwasanaeth trafnidiaeth 12 awr, yn enwedig o ran ateb y galw am y gwasanaeth a diwallu anghenion cleifion. Ynghyd â hyn, rydym yn argymell y dylid pwyso a mesur, ar adeg briodol, a fyddai gwasanaeth trafnidiaeth 24 awr yn diwallu anghenion cleifion yn well.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Cafodd capasiti'r gwasanaeth trafnidiaeth i gyflawni pob trosglwyddiad o fewn y gwasanaeth 12 awr presennol ei adolygu gan Grŵp Llywio'r Rhwydwaith Newyddenedigol ym mis Gorffennaf 2011.  Ni nododd nifer y trosglwyddiadau a wnaed y 'tu allan i oriau' yn ystod chwe mis cyntaf y gwasanaeth fod angen ymestyn y gwasanaeth 12 awr ar hyn o bryd. 

 

Bydd y Rhwydwaith Newyddenedigol yn parhau i fonitro niferoedd sy'n trosglwyddo.

 

Argymhelliad 12.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Gyfan yn adolygu'n rheolaidd y trefniadau ar gyfer trosglwyddo cleifion ar draws ffiniau i sicrhau eu bod yn effeithiol.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â'r timau trafnidiaeth yng Nghanolbarth Lloegr a Gogledd-orllewin Lloegr ac yn gweithio ar gymwyseddau staff a chaiff yr hyfforddiant ei rannu.  Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda Rhwydwaith Newyddenedigol De-orllewin Lloegr a'r Grŵp Comisiynu Arbenigol yn Lloegr i drafod llifau trawsffiniol ac i rannu arfer da.

 

Mae llwybrau clinigol sefydledig eisoes ar waith ar gyfer babanod y mae angen gofal trydyddol arnynt y tu allan i Gymru a rhoddwyd trefniadau ychwanegol ar waith rhwng y Rhwydweithiau, i gefnogi'r broses o ddychwelyd babanod yn ôl i'w Huned gartref mewn modd effeithiol.

 

Argymhelliad 13.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r Byrddau Iechyd, roi mesurau brys ar waith i fynd i'r afael â phrinder staff meddygol a nyrsio i sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae gan bob Bwrdd Iechyd Lleol gynlluniau gweithredu newyddenedigol ar waith i fynd i'r afael â phrinder staff ar gyfer gofal diogel ac effeithiol. Mae'r cynlluniau gweithredu hyn hefyd yn llywio'r cynlluniau moderneiddio gwasanaethau ehangach a gaiff eu datblygu gan Fyrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod eu holl wasanaethau yn ddiogel a chynaliadwy.

 

 

 

 

 

 

 

 

Argymhelliad 14.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gweithdrefnau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau y gall nyrsys newyddenedigol gael mynediad i addysg a hyfforddiant.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol, drwy ei is-grŵp Nyrsio a Therapïau, wedi cynnal adolygiad o addysg a hyfforddiant newyddenedigol.  Mae ‘Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer Hyfforddiant i Nyrsys Newyddenedigol' wedi'i ddatblygu a'i ddosbarthu i Fyrddau Iechyd Lleol. Mae'r fframwaith yn amlinellu gweledigaeth a chamau gweithredu cysylltiedig i ddatblygu hyfforddiant ac addysg i nyrsys yng Nghymru yn ystod y flwyddyn i dair nesaf. Gofynnwyd i Fyrddau Iechyd Lleol gynnal dadansoddiad o anghenion staff mewn Unedau lefel 2, datblygu rhaglenni cylchdroi cynhwysfawr gydag Unedau Lefel 3 a nodi meysydd ymarfer penodol y mae angen eu diweddaru neu lle bo angen hyfforddiant.

 

Argymhelliad 15.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio gyda chyrff proffesiynol perthnasol, gan gynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd, y posibilrwydd o ddatblygu arbenigedd mewn neonatoleg.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gweithio i ddatblygu fframwaith cymhwysedd ar gyfer nyrsio newyddenedigol a chefnogir y gwaith hwn gan y Rhwydwaith Newyddenedigol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Rhoddir arfarniadau rheolaidd o'r gwaith wrth iddo ddatblygu i swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

Argymhelliad 16.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth yn cael eu hintegreiddio'n well ac yn gweithio'n well gyda'i gilydd.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae cynrychiolwyr obstetrig a bydwreigiaeth yn aelodau o Grŵp Llywio'r Rhwydwaith Newyddenedigol ac mae tîm y Rhwydwaith yn cynnal cyfarfodydd ar wahân gyda'r cynrychiolwyr hyn i rannu cynlluniau gwaith a thrafod camau gweithredu a chytuno arnynt. Mae arweinydd y Rhwydwaith Newyddenedigol hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan a nifer o is-grwpiau sy'n datblygu'r gwaith o Weithredu 'Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasnaethau mamolaeth yng Nghymru'.

 

Argymhelliad 17.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Byrddau Iechyd yn adolygu eu trefniadau cyfredol ar gyfer cefnogi rhieni babanod dan ofal arbennig, er mwyn mynd i'r afael â'r canlynol: canllawiau ymarferol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ar nodi anghenion rhieni; helpu rhieni i gyfrannu at ofal eu baban; a darparu cymorth i rieni wrth symud yn raddol tuag at ddod yn brif ofalwyr.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae Byrddau Iechyd Lleol yn nodi cynnydd ar waith yn y maes hwn o dan Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan: Safon 4 - Nodir cydymffurfiaeth lawn neu rannol â'r safon hon, gyda phob Bwrdd Iechyd Lleol yn darparu adnoddau i gefnogi hyfforddiant i rieni, yn ogystal â mynediad i amrywiaeth o wasanaethau cymorth eraill. Mae cydymffurfiaeth lawn yn amlwg o ran cyfleusterau a chymorth bwydo ar y fron.

 

Cwblhawyd gwaith gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i fapio grwpiau cymorth rhieni ledled Cymru. Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol, drwy ei gynrychiolwyr sy'n rhieni, yn sefydlu cysylltiadau â phob grŵp cymorth i sicrhau bod barn rhieni a theuluoedd yn cael eu clywed.

 

Argymhelliad 18.

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod digon o lety ar gael i rieni, yn enwedig yn y prif ganolfannau arweiniol. Fel rhan o hyn, rydym yn argymell y dylid ystyried defnyddio unedau gofal trosiannol.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r Rhwydwaith Newyddenedigol hefyd yn gweithio gyda BLISS, yr Elusen Babanod Gofal Arbennig, i archwilio Byrddau Iechyd Lleol yn erbyn ei Safonau Siarter Babanod y bwriedir eu lansio ym mis Chwefror 2012.

 

Bydd y dull archwilio Bliss sy'n ystyrlon o fabanod yn helpu i nodi'r cyfleusterau sydd ar gael i rieni 'ymgartrefu' cyn iddynt fynd â'u babanod adref. Bydd y Rhwydwaith Newyddenedigol hefyd yn archwilio llety ar wahân i rieni ym mhob uned yng Nghymru. Caiff canlyniad yr archwiliad hwn ei gyflwyno i'r Grŵp Llywio Newyddenedigol a gynhelir ym mis Gorffennaf.